Talgarth a'r cylch
Bywyd ysgol
  Dysgu oddi wrth Lyfrau Cofnod yr ysgol  

Mae’r ffotograff yn dangos plant lleol ger y Twr a’r bont yn Nhalgarth. Cafodd ei dynnu yn fwy na thebyg tua 1900.

Mae’r rhan hon o’n gwefan yn rhoi rhyw fath o syniad o fywyd bob dydd plant oedd yn mynd i’r ysgolion lleol yn ystod blynyddoedd olaf oes Fictoria.
Mae’r tudalennau yma yn defnyddio darnau o Lyfrau Cofnod neu ddyddiaduron swyddogol yr ysgolion lleol. Nid oedd yn rhaid i’r rhan fwyaf o ysgolion gadw cofnodion swyddogol tan 1863, ac agorwyd y Llyfr Cofnod hynaf yn yr adran yma yn 1877.
Gall y llyfrau yn aml iawn ddweud llawer wrthym yngly â bywyd y cartref bryd hynny yn ogystal â sôn am yr hyn oedd yn digwydd yn yr ysgol ei hunan.
Roedd y rhaid i blant o deuluoedd tlawd fynd i weithio cyn gynted ag yr oeddynt yn ddigon hen i ddod ag incwm ychwanegol, ac roeddynt yn aml iawn yn colli gwersi er mwyn helpu ar y fferm a gwneud gwaith arall i’w rhieni.

Talgarth children
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
     
 

.