|
Nid oedd plant pobl dlawd
yn mynd i’r ysgol o gwbl ym mlynyddoedd
cynnar teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Byddent yn mynd allan i weithio
cyn gynted ag yr oeddynt yn ddigon hen i ennill arian i fwydo’r teulu.
Byddai plant tirfeddianwyr cyfoethog
a dynion busnes yn cael eu haddysgu yn y cartref neu eu hanfon i ysgolion
preifat. Erbyn diwedd oes Fictoria, roedd ysgolion
rhad ac am ddim wedi cael
eu sefydlu ac roedd rhaid i bob plentyn fynd i’r ysgol.
Cewch wybod mwy am rai o’r ysgolion
lleol o’r ddewislen a welwch chi yma...
|
|