Rhaeadr Mae cofnodion o nifer o ysgolion
cynnar yn dangos pa mor galed oedd hi i nifer o deuluoedd ymdopi gydag
ychydig iawn o arian yn ystod oes Fictoria. Dangosir dwy enghraifft o
Ysgol Saint Harmon yma. Mae’r ail ddarn o
Lyfr Cofnod yn dod o 1880 -
Bywyd ysgol
Plant
o deuluoedd tlawd iawn
1875
Mae’r darn
yma yn dod o Lyfr Cofnod ysgol yn 1875
:
"Mr Jones, Rhayader, called to say the fees of
the pauper children would be paid by the Guardians".
Roedd hyn yn golygu y byddai plant ysgol o deuluoedd
tlawd iawn oedd yn derbyn arian o’r
plwyf i brynu bwyd a dillad hefyd yn gweld y plwyf yn talu eu ffioedd ysgol.
Roedd hyn yn cael ei gytuno gan ‘Fwrdd y Gwarcheidwaid’
oedd yn penderfynu faint o help i’w roi.
1880
"Mrs
Reese of Newhouse came to say that her children could not attend school
as they had no clothes to protect them from the cold".
Roedd rhaid i nifer o blant o ardaloedd gwledig
gerdded milltiroedd
i’r ysgol ym mhob tywydd ac roedd dillad cynnes addas a dillad dal dwr
yn bwysig iawn.
Roedd angen dillad cynnes y tu fewn
i’r ysgol hefyd yn ystod misoedd y gaeaf gan nad oedd llawer iawn o wres
yn aml iawn mewn ystafelloedd dosbarth oes Fictoria.