Rhaeadr
Bywyd ysgol
  Briwiau’n ymddangos ar y corff  
Roedd athrawon o hyd yn poeni am y perygl o ledaenu heintiau yn yr ysgol. Yn ystod cyfnod Fictoria, roedd hi’n rhywbeth cyffredin i weld afiechydon a heintiau’n effeithio ar bron pob teulu mewn cymuned fechan, felly roedd athrawon yn cymryd gofal bob tro i geisio atal afiechydon rhag lledaenu.  
9 Ebrill
1880
School diary entry
 

Mae hwn yn dod o Lyfr Cofnod Ysgol Genedlaethol Saint Harmon yn 1880 (ysgol yr eglwys) -Drawing of boy with sores
"Many of the children are breaking out in sores over the face - Spoke to Evans' mother about getting something for his face - she refused to do it so I have to make him sit separate from the others and make him wear his cap in the school on a/c [account] of his head being covered with sores".
Mae nifer o enghreifftiau o blant yn cael eu gwahardd o’r ysgol os oedd yna unrhyw berygl y byddent yn dod â salwch gyda hwy a fyddai’n gallu cael ei ledaenu i blant eraill. Yn ogystal, roedd hi’n arfer cyffredin i gau ysgol yn llwyr pan fyddai achosion o afiechyd yn yr ardal...

Yn ôl i ddewislen ysgolion Rhaeadr

.