Rhaeadr
Bywyd ysgol
  Ble mae’r holl blant wedi mynd ?  
Mae Llyfrau Cofnod ysgolion oes Fictoria bob wythnos yn sôn am y trafferthion i gael plant i ddod i’r ysgol yn rheolaidd.
Tua diwedd teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria, bu newid yn y gyfraith i orfodi rhieni i anfon eu plant i ysgolion, ond roedd yna nifer o resymau o hyd dros absenoldeb. Roedd hyn yn arfer gwylltio athrawon !
 
1 Gorffennaf
1887
School diary entry
 

Mae’r darn yma o ddyddiadur Ysgol Bwlch-y-sarnau ar gyfer 1887 yn dod â nifer o ddigwyddiadau ynghyd oedd yn cadw plant i ffwrdd o’r ysgol -
"Very irregular attendance this week. There are Jubilee Teas,
shearings, turf-harvest, deaths in certain families, or some Empty schoolroomcasualties almost daily. I punished two children on Wednesday, for bad attendance".
Roedd y 'Jubilee Teas' yn bartïon lleol a gynhaliwyd i ddathlu 50 mlynedd o deyrnasiad gan y Frenhines Fictoria a gafodd ei choroni yn 1837.
Byddai mawn yn cael ei gasglu o fannau corslyd yn y 'turf-harvest'. Byddai’r mawn yn cael ei sychu a’i losgi yn hytrach na glo, nad oedd llawer o bobl yn medru ei fforddio. Mae’r darn hefyd yn sôn am farwolaethau a damweiniau, oedd yn gyffredin iawn yn oes Fictoria oherwydd epidimigion a damweiniau difrifol o ganlyniad i amodau gwaith gwael iawn.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Rhaeadr

 

"We never had a less number in school than this week. There are so many pleasuring fairs this week and some of the children are attending them, others are kept at home to work".
Ysgol Bwlch y Sarnau
12 Mai 1876