Rhaeadr
Bywyd ysgol
  Ysgol yn uchel yn y bryniau  
Roedd yr ysgol fechan ym Mwlch-y-sarnau mewn man anghysbell iawn yn uchel yn y bryniau i’r gogledd ddwyrain o Raeadr.
Er bod nifer o blant yn ei chael hi’n anodd iawn i fynd i’r ysgol yn oes Fictoria, gwelodd yr Arolygwyr ysgolion bod y canlyniadau a gafwyd fel arfer yn dda iawn.
Roedd hwn yn rhan o adroddiad yr Arolygwyr Ysgolion o Lyfr Cofnod yr ysgol ym Medi, 1874:
 
8 Medi
1874
School diary entry
 

"Bwlchysarnau School, Abyw, Radnor I am glad to find this school, situated as it is in a remote part of the country difficult of access, so well attended. The result of this regularity is that the children acquitted themselves in a creditable manner at examination...."

Er bod yr Arolygydd yn fodlon iawn gyda nifer oedd yn mynychu’r ysgol, roedd yr un problemau ym Mwlch-y-sarnau â’r rheini a gafwyd yn y rhan fwyaf o ysgolion oes Fictoria sef cael y plant (a elwid yn 'scholars' yn y rhan fwyaf o ddyddiaduron ysgol o’r cyfnod) i ddod i’r ysgol yn rheolaidd.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Rhaeadr
.
.