Rhaeadr Un o’r problemau mwyaf cyffredin
yr oedd yn rhaid i ysgolion oes Fictoria ddelio â hwy oedd iechyd
y plant. Nid oedd llawer iawn o ysgolion yn llwyddo i beidio â lledaenu
afiechydon oedd yn golygu’n aml iawn bod rhaid iddynt gau am wythnosau. Mae hwn yn dod o Lyfr Cofnod Ysgol
Bwlch-y-sarnau ar gyfer 1885
- Yn ôl i ddewislen
ysgolion Rhaeadr
Bywyd ysgol
Roedd
ei phen fel twyni morgrug
Roedd nifer o deuluoedd yn dlawd iawn
ac roedd amodau byw a bwyd yn y cartref yn gallu bod yn afiach. Nid dim
ond ar bennau plant tlawd yr oedd chwain pen yn ymddangos, ond roeddynt
yn gallu lledu’n haws mewn amgylchiadau lle roedd pobl yn byw ar ben ei
gilydd.
1885
"... I punished one girl on Monday, on account
of her stupidity; she is like an ass. I was compelled to yield to her.
Her head was like an ant hill, swarming with lice and she was eating them."
Ych
a fi ! Er nad yw y rhan fwyaf o heintiau
oedd yn lledu’n rhwydd mewn ysgolion oes Fictoria bellach yn broblem heddiw,
y mae chwain pen yn parhau o hyd yn y cartrefi ac ysgolion glanaf - ac
maent dal yn bethau caled i gael gwared â nhw !
Ond nid yw eu bwyta’n syniad da, hyd yn oed os nad ydych yn hoffi cinio
ysgol.