Talgarth
a'r cylch "The
children who were away yesterday came today. I asked them why they were
so silly yesterday and it appears it was their clothes that was the drawback".
Mae’r
rhan fwyaf o ffotograffau swyddogol ysgolion Fictoraidd yn dangos y plant
wedi’u gwisgo yn eu dillad gorau,
gyda’r merched mewn pinaffors â gwaith brodio arnynt a’r bechgyn gyda’u
coleri les hardd. Yn
ôl i ddewislen ysgolion Talgarth
Bywyd ysgol
Rhy
dlawd i gael tynnu eu lluniau
Mae rhai
darnau o Lyfrau Cofnod ysgolion yn dweud
llawer wrthym yngly â bywyd cartref plant oes Fictoria fel ag y maent hefyd
yn sôn am ddigwyddiadau yn yr ysgol. Roedd prinder
arian yn broblem fawr i lawer o deuluoedd, yn arbennig felly
mewn ardaloedd gwledig.
Dyma enghraifft drist sy’n dangos fod rhai rhieni lleol yn penderfynu cadw
eu plant adref pan fyddai’r ffotograffwyr swyddogol yn dod i dynnu lluniau
o’r ysgol, oherwydd roedd cywilydd arnynt o gyflwr dillad eu plant. Roedd
hyn yn Ysgol Llanfilo yn 1881...
1881
"Opened
School. At 11 a Photographer came to take a view of the buildings. A very
thin attendance, for some of the children did not come because of this.
The Worths & Jones, Trebarried all stayed away at 11, so we stood in
the playground that the view might have a lively appearance..."
Ond roedd llawer o deuluoedd yn ei chael yn anodd dod o hyd i ychydig
geiniogau i dalu ffioedd yr ysgol, ac nid oeddynt yn gallu
fforddio dillad newydd ar gyfer y plant.