Talgarth Fictoriaidd
  Talgarth, Llangors a’r ardal  
 

Mae’r map tirwedd ar y dde yn dangos tir isel yn yr ongl rhwng y ddwy gadwyn o fynyddoedd. Ar ochr dde’r map y mae copâu y Mynyddoedd Duon, a thua’r de-orllewin, tu allan i’r map, y mae Bannau Brycheiniog.

Mae’r ardal hon o dir isel yn ardal amaethyddol hyd heddiw, ac yng nghyfnod Fictoria roedd canran uwch o bobl yn ennill bywoliaeth trwy weithio ar y tir mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Roedd y bwlch hwn rhwng yr ardaloedd mynyddig yn llwybr pwysig i gludiant lleol yn ystod oes Fictoria.

Relief map of the area
 

Yn debyg i ardaloedd eraill ar ein gwefan, bu newid mawr yn Nhalgarth a chymunedau eraill yn yr ardal hon o Sir Frycheiniog yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

Dewiswch o’r pynciau isod i edrych ar rai o’r newidiadau hyn :

 

 
 

Fe fyddem yn ddiolchgar dros ben i gael unrhyw atborth gan athrawon, plant, ac eraill sydd â diddordeb yn ein prosiect.

Anfonwch e-bost at Gavin Hooson os oes gennych unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud:

gavin@powys.gov.uk

Diolch am eich help.

 

 
 
 
 
 
   
 
Yn ôl i dop
Ewch i'r ddewislen lleoedd