Talgarth a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  System gaeau hynafol ym Mronllys yn oes Fictoria  
 

Mae map y Degwm 1839 ar gyfer plwyf Bronllys yn datgelu rhywbeth anarferol. Mae’r map yn dangops ardal fawr o gaeau mewn stribedi cul ac mae’r cofnodion sy’n mynd gyda’r map yn glaw’r ardal yn "Cole Brook Common Field".
Yn yr oesoedd canol roedd tir lle plannwyd cynydau yn cael ei rannu’n stribedi cul ac roeddynt yn cael eu rhannu rhwng y pentrefwyr. Roedd pob pentrefwr yn cael yr un nifer o stribedi ac roedd y rhain yn cael eu rhannu fel bod pawb yn cael eu rhan o’r tir da a’r tir gwawel.
Roedd y pentrefwyr hefyd yn gallu pori eu hanifeiliaid ar y tir comin agored. Mae’r map a welwch chi yma yn dangos fod y system hynafol yma‘n cael ei defnyddio o hyd yn 1839 ym Mronllys. (Gerllaw yn Llyswen roedd yna system debyg yn bodoli o hyd) Rydym wedi lliwio’r stribedi er mwyn i chi weld pwy oedd â pha dir. Mae’r tabl a welwch chi yma yn rhoi’r enwau.

 


MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.

  Tir Evan Prosser o Borthamal  
  Tir Benjamin Price o Farish  
  Tir Roger Thomas  
  Tir William Price (perllan)  
  Tir William Turner o Bentresollers  
  Tir Evan Davies  
  Tir William Davies o Upper House  
  Tir William Williams  
  Tir Mary Kitchingman o Dafarn y Mason  
 

Roedd pob un o’r bobl yma’n rhentu’r tir ar wahân i William Williams oddi wrth y tirfeddiannwr. Er enghraifft roedd Mr Prosser o Porthamal yn rhentu ei fferm a’r stribedi yma oddi wrth Iarll Ashburnham. Roedd Evan Davies yn rhentu ei dir oddi wrth Cyrnol Woods oedd yn dirfeddiannwr lleol ac yn A.S. y sir.

Mwy am y tir comin ym Mronllys...