Talgarth a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Cau’r tir comin  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn ddarn o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1887.
Gallwch weld yn syth fod y tir comin sef Cole Brook wedi’i gau rhywbryd rhwng 1839 ac 1887.
(Sylwch y rhoddir yr enw Coldbrook arno ar y map yma).

 
 
Cymharwch gyda’r map o tir comin yn 1839...
 

Gallwch weld fod y rhesi o stribedi wedi dod ynghyd neu eu rhoi gyda’i gilydd yn gaeau mwy, er eich bod yn gallu adnabod rhai o’r siapiau o’r map cynharach.
Wrth ymyl Giât Dewsbury gallwch weld y stribed cul o berllan o hyd a oedd wedi’i nodi yn eiddo i William Price yn 1839.
Roedd yn bosib gwneud y caeau mawr nwewydd yn fwy cynhyrchiol ond nid oedd y teuluoedd tlawd oedd yn gallu pori yno cynt bellach yn cael mynd i mewn iddynt.

Ewch i ddewislen Talgarth