Talgarth
a'r cylch 5
Ionawr - "I do not think its possible
we shall have a full school. Two families leave the Parish this week because
their cottages are in such a bad state no one can inhabit them. I lose
six of my most regular scholars owing to the fact, also Ada Morgan leaves
for Pencelly".
Bywyd ysgol
Mae
cyflwr y bythynnod yn ofnadwy o wael…
Dyma ddarn
arall o Lyfr Cofnod ysgol Fictoraidd leol sy’n dangos pa mor ofnadwy
o dlawd oedd llawer o’r teuluoedd.
Mae’n sôn am ddau deulu y bu’n rhaid iddynt adael yr ardal oherwydd nad
oedd y bythynnod yr oeddynt yn byw ynddynt yn ddigon da ar gyfer hyn. Roedd
hyn y golygu fod yn rhaid i’r plant adael Ysgol
Llanfilo yn 1880...
1880
Roedd yna nodyn yn Llyfr
Cofnod yr un ysgol dim ond blwyddyn ynghynt, yn 1879,
fod "Two families are now leaving the Parish with
fourteen children...".
Roedd teuluoedd mawr yn llawer iawn mwy cyffredin yn oes Fictoria, ac
yn aml iawn roedd hyn yn ychwanegu at broblemau tlodi,
gan yr oedd rhaid darparu mwy o fwyd a dillad.