Talgarth a'r cylch
Bywyd ysgol
  Maent yn cyrraedd adref yn crio oherwydd yr oerfel...  

Mae’r enghraifft arferol yma o ddyddiadur ysgol a ddangosir ar y dudalen yma yn un o lawer sy’n sôn am rai o’r amodau anodd iawn yr oedd hyd yn oed y plant lleiaf yn gorfod ymdopi â nhw os oeddynt yn mynd i’r ysgol yn ystod oes Fictoria. Ym mis Gorffennaf 1880, ysgrifennodd y pennaeth yn Llyfr Cofnod swyddogol Ysgol Llanfilo -
"Following are causes adverse to the welfare of the Infant class in this district"...

Going to school in the rain
12 Gorffennaf
1880
School diary entry

1st - "The scattered homes so distant that some have to give up for a time coming to school because health fails"

2nd - "The severity of the winters which the youngest children feel most after the afternoon attendance, they reach home numbed and crying with the cold, illness follows, and when the child returns body and mind weakened and memory almost gone"...

 

"The same lessons have to be repeated over and over again, and often they leave the Parish"...
Ymhob un o Lyfrau Cofnod neu ddyddiaduron ysgolion Fictoraidd mae yna sôn am blant yn absennol oherwydd salwch. Roedd gorfod cerdded pellteroedd i’r ysgol, yn aml iawn mewn tywydd ofnadwy, yn ddim ond un o’r achosion pam fod yna broblemau iechyd parhaol.
Mae’r rhan fwyaf o ffotograffau grw yr ysgolion cynnar yma yn dangos fod hyd yn oed y plant lleiaf (tebyg i’r rhain a welwch chi ar y dde) yn gwisgo esgidiau uchel er mwyn cerdded dros y caeau a llwybrau garw i gyrraedd yr ysgol.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Talgarth
.

.

Children wearing boots