Talgarth
a'r cylch
Bywyd ysgol
|
Ysgol
anghysbell yn y mynyddoedd |
|
|
Roedd yr
Arolygwr Ysgolion yn ymweld ag ysgolion
bob blwyddyn, ac roedd eu hadroddiadau swyddogol
yn cael eu copïo i mewn i’r Llyfr Cofnod. Maent
yn dynodi’r pynciau a oedd bwysicaf yn eu barn nhw, ond maent hefyd weithiau’n
cynnwys sylwadau sy’n datgelu llawer.
Mae’r un yma, o Ysgol Pengenffordd yn
1885, yn ei galw’n "lonely
mountain school" gyda phlant sy’n hynod o swil gyda phobl ddieithr
! |
|
28
Hydref
1885
|
|
"There
has been a change of teacher during the year and an epidemic of measles,
yet the school maintains its character of thorough efficiency, as far as
circumstances permit. The expression of the Reading and Recitation seems
to be improving, a particularly creditable feature in a lonely mountain
school where the children are timid in the presence of strangers"... |
|
"By making a
little allowance the higher rate can be recommended for English, Geography
and Singing".
Roedd yr Arolygwyr fel arfer
yn ystyried rhai o’r problemau yr
oedd yn rhaid i lawer o ysgolion ddelio â nhw, megis salwch
a newid athrawon. Mae’n rhaid nad oedd y plant yma mor swil â hynny oherwydd
fe wnaethant greu argraff ar Arolygwr y llywodraeth gyda’u Saesneg,
Daearyddiaeth a Chanu.
Roedd faint o arian oedd ar gael i redeg yr ysgol yn dibynnu ar ba mor
dda oedd y plant yn gwneud yn y gwahanol bynciau
yn ystod yr arholiadau, a byddai’r arian yn cael ei dalu naill ai’r raddfa
uchaf neu isaf. Weithiau ni fyddent yn derbyn unrhyw arian o gwbl os oeddynt
yn gwneud yn wael yn y pwnc !
Yn ôl i ddewislen
ysgolion Talgarth
.
.
|
|
|
|
|