Talgarth a'r cylch
Bywyd ysgol
Ar barêd yn Ysgol Cathedine  
  Darllen, ysgrifennu ac arithmetig oedd y gwersi pwysicaf yn yr ystafell ddosbarth Fictoraidd. Mae sôn yn Llyfr Cofnod swyddogol Ysgol Llanfilo yn 1887 am ffordd o wneud symiau yn fwy diddorol...  
22 Hydref
1877
School diary entry "Knowing the importance of Arithmetic, I work very hard with that subject. They brighten when I talk of nuts, eggs, and apples"...
Apple
Apple Mae’r syniad o ddefnyddio pethau bob dydd i wneud gwersi ysgol yn haws i’w ddeall wedi bod yn rhywbeth cyffredin am amser hir, ac roedd cnau, wyau ac afalau yn ddelfrydol ar gyfer y plant yma o ardal wledig !  
Yn ogystal ag arithmetig a’r pethau arferol eraill, roedd llawer o ysgolion Fictoraidd hefyd yn awyddus i ddysgu "drill", gyda’r plant yn gorymdeithio ac yn gwneud ymarferion gyda’i gilydd. Roedd y math yma o wersi yn debyg i ryw fath o wersi addysg gorfforol cynnar i gadw’r disgyblion yn heini, ond roeddynt hefyd yn ddefnyddiol er mwyn gwella disgyblaeth.
Mae’r enghraifft a welwch chi yma yn dod o Lyfr Cofnod Ysgol Cathedine yn 1888...
Drill lesson
1 Mehefin
1888
School diary entry
 

"On Friday afternoon from 4 to 4.30, Sergeant D.Phillips gave all the bigger boys a Lesson in Military Drill".
Roedd y dril yn rhywbeth i bawb yn y rhan fwyaf o ysgolion ac nid dim ond i’r bechgyn hynaf. Dros y rhan fwyaf o gyfnod Fictoria roedd "Dydd yr Ymerodraeth" ym mis Mai yn achlysur pwysig er mwyn i blant ysgol roi tro ar eu sgiliau paredio a gorymdeithio. Fel arfer fe fyddent yn canu caneuon cenedlaetholgar ac yn rhoi saliwt i’r faner Brydeinig !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Talgarth
.

.