Talgarth a'r cylch
Bywyd ysgol
  Marwolaeth aelod bach o’r ysgol  
Yn aml iawn roedd ysgolion ar gau am wythnosau er mwyn osgoi lledu afiechydon heintus.

Roedd ysgolion yn gallu bod yn llefydd peryglus yn ystod cyfnod Fictoria pan oedd afiechydon heintus yn yr ardal.
Yn yr ardaloedd gwledig roedd plant yn dod i’r ysgol o ffermydd a bythynnod oedd milltiroedd i ffwrdd ym mhob cyfeiriad. Pan fyddent yn dod at ei gilydd i gael gwersi roedd afiechydon megis y dwymyn goch, y frech goch a diptheria yn gallu lledu’n gyflym o amgylch y gymuned gyfan.
Roedd afiechydon difrifol yn gyffredin, yn aml iawn oherwydd y tai oer a llaith a’r bwyd gwael. Ysgrifennwyd y darn a welwch chi yma, o Lyfr Cofnod Ysgol Fwrdd Llanfilo yn 1880...

Headstone and grave
30 Mehefin
1880
School diary entry "Began to balance the books. I find that of the 37 children now on the Register, 26 have had severe illness during the past three months".

Gan fod afiechydon yn digwydd mor aml nid yw’n rhyw lawer o syndod fod marwolaethau plant ifanc yn cael eu cofnodi’n aml yn Llyfrau Cofnod yr ysgolion. Ysgrifennwyd yr enghraifft a welwch chi yma o’r un ysgol wedi marwolaeth bachgen bach o’r enw Samuel Jones...

School diary entry
18 Chwefror
1881
School diary entry "The Rector visited the School and talked to the children about the death of their little school fellow, all feel subdued and sad. Today he will be buried, several go to the funeral".
 

Dim ond pedair blwydd oed oedd y "little school fellow", ac roedd "one of the most promising children in the Infant Class".

Yn ôl i ddewislen ysgolion Talgarth
.

.