Talgarth a'r cylch
Bywyd ysgol
Siarad am yr eliffant  
  Un o’r pynciau mwy anarferol oedd yn cael ei gynnwys yn amserlen y rhan fwyaf o ysgolion Fictoraidd oedd y "Wers Wrthrych". Bob blwyddyn roedd prifathrawon yn derbyn rhestr o "wrthrychau" ar gyfer gwahanol grwpiau oedran neu "Safonau" yn yr ysgol.
Fel arfer roedd y gwersi yma’n cael eu cynnal unwaith yr wythnos, ac fe fyddai gan athro set o gardiau gyda lluniau o bethau yn cael eu disgrifio’n y gwersi. Mae’r rhestr yma o wersi yn dod o Lyfr Cofnod Ysgol Pengenffordd yn 1887...
Rabbit
5 Awst
1887
Mae’r rhan fwyaf o’r rhestrau o "Wersi Gwrthrych" sydd i’w cael mewn Llyfrau Cofnod ysgolion yn cynnwys cymysgwch o bethau y byddai plant efallai yn gweld bob dydd, a hefyd anifeiliaid egsotig fel y llew neu eliffant nad oedd i’w gweld yn aml iawn yng Nghymru !
  "List of Object Lessons for the Year" Tiger engraving
  "Cow
Sheep
Horse
Dog
Cat
Elephant
Rabbit
Hen
Tree
A House
Garden
Loaf
School
Water
Day & Night"
 
Efallai fod y llun braidd yn fawr,
ond dyma lun o gath Fictoraidd !
 

Yn ogystal â chardiau â lluniau arnynt, roedd gan rai ysgolion blychau pren oedd ag enghreifftiau go iawn o rai pethau addas, a modelau o anifeiliaid.
Er bod y rhestr i’w gweld braidd yn od i ni heddiw, os oedd y gwersi yn cael eu cyflwyno’n dda roeddynt yn gallu bod yn ffordd ddefnyddiol o ddysgu gwyddoniaeth syml trwy adael i’r plant drafod deunyddiau fel gwydr neu haearn a dysgu am eu gwahanol rinweddau ac ar gyfer beth yr oeddynt yn cael eu defnyddio. Roedd yr amrywiaeth o wrthrychau hefyd yn cynnwys hanes naturiol a daearyddiaeth trwy gynnwys anifeiliaid o wledydd pell.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Talgarth
.

.