Talgarth a'r cylch
Bywyd ysgol
Roedd deng niwrnod yn hen ddigon hir !  
  Roedd gan brifathrawon y rhan fwyaf o ysgolion gwledig Fictoraidd lawer o broblemau i ddelio â nhw, ac roedd cael y 'scholars' neu ddisgyblion i ddod i’r ysgol yn rheolaidd fel arfer ar ben y rhestr.
Penodwyd Ada Harris yn Brifathrawes ar Ysgol Pengenffordd ym mis Ionawr 1891, a gwelodd mai ychydig iawn o’r plant oedd yn y dosbarth...
 
19 Ionawr
1891
School diary entry "I commenced duties as Head Mistress of this school this morning with an attendance of only 14 scholars...
Gallwch weld y brif athrawes Fictoraidd yn y ffotograff sydd gyferbyn a gallwch ei weld yn yr hen ystafell ddosbarth yn Amgueddfa Brycheiniog
yn Aberhonddu. Mae hi wedi bod yno am lawer iawn mwy na deng niwrnod !

"....owing to the extreme severity of the weather, which having now lasted for several weeks, is probably the indirect cause of the backward state in which I find the school..."
Roedd yr esgus o dywydd gaeafol yn rheswm mwy derbyniol dros golli’r ysgol !
Ond gwelodd y Brifathrawes newydd fod y plant bell ar ei hôl hi gyda’u gwersi, ac felly nid oedd gobaith y byddent yn gwneud yn dda yn yr arholiadau swyddogol.
Mae’n amlwg nad oedd hi o’r farn ei bod werth rhoi tro arni i wella pethau, oherwydd ymddiswyddodd o’i swydd dim ond deng niwrnod yn ddiweddarach !

Victorian schoolmistress
29 Ionawr
1891
School diary entry
 

29 Ionawr - "I cease my duties at this school today, as I am leaving tomorrow for a better one".
Yn yr adroddiad swyddogol nesaf ar Bengenffordd gan yr Arolygwr Ysgolion nododd bod pum athro gwahanol wedi bod yn dysgu yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn flaenorol !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Talgarth
.

.