|   | 
     
       Roedd yn llawer iawn 
        mwy anodd i dynnu ffotograffau yn ystod blynyddoedd teyrnasiad y Frenhines 
        Fictoria.   
        Roedd y camerâu yn fawr iawn ac yn 
        drwm. Roedd y rhan fwyaf o’r camerâu wedi’u gwneud o bren, fel arfer mahogani, 
        a’r darnau, y sgriwiau ac ati wedi’u gwneud o bres.  
        Gan fod y camera y dyddiau hynny mor drwm roedd yn cymryd yn llawer iawn 
        hirach na heddiw i dynnu llun.  
        Roedd coesau’r camera hefyd yn gryf iawn er mwyn medru gwneud yn siw^r 
        ei fod yn llonydd tra’n tynnu’r llun. Roedd yn rhaid i’r bobl oedd yn 
        cael eu llun wedi’i dynnu aros yn llonydd iawn 
        hefyd !  
        Dyna pam y mae lluniau o blant yn ystod oes Fictoria ag un neu ddau o 
        wynebau niwlog gan fod rhywun wedi symud cyn i’r ffotograffydd orffen 
        ei waith !  
     | 
    Neb 
      i symud!  |