Llanidloes
Ffotograffau Fictoriaidd
  Y Britannia Inn  
 

Mae’r hen ffotograff sydd ar y dudalen yma yn dangos un o’r adeiladau yn Short Bridge Street, Llanidloes pan roedd yn cael ei gadw fel y Britannia Inn.
Roedd yn un o res o adeiladau a adeiladwyd yn 1815, gyda rheils taclus a’r perthi wedi’u gosod ychydig yn ôl o’r stryd. Y banc cyntaf i’w agor yn y dref oedd yr adeilad drws nesaf, a ddarparwyd gan gynhyrchwr gwlanen lleol. Fflatiau yw’r hen dafarn nawr o’r enw "The Laurels".

 
The Britannia Inn,c1882
 

Tynnwyd y ffotograff yma yn yr 1880'au yn fwy na thebyg. Yr adeg hynny roedd gan y bobl leol y dewis o bedwar ty^ tafarn i yfed ynddynt, a hynny yn y stryd yma’n unig. Dim ond un sydd yno nawr ! Mae’r adeilad yno o hyd, fwy neu lai gyferbyn â’r un dafarn sydd ar ôl yn y stryd, y Royal Head. Llun o’r landlord a’i deulu yw hwn yn fwy na thebyg, gan fod y ferch fach yn edrych ychydig yn ifanc i fod yn gwsmer !
n

 
 

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes