Llanidloes yn oes Fictoria
 
Llanidloes a Dyffryn Hafren Uchaf
 
 

Digwyddodd newidiadau mawrion yn Llanidloes a Dyffryn Hafren Uchaf yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria, fel pob un o ardaloedd Powys sydd ar ein wefan i ysgolion cynradd.
Daeth addysg â chyfleoedd newydd i blant, ond roedd yna rhai problemau wrth i ysgolion gychwyn.
Cysylltodd y gwelliannau mewn cludiant yr ardal gyda'r byd y tu hwnt i Sir Drefaldwyn, gan ddod â chyfleoedd newydd ar gyfer masnach a theithio.
Tyfodd y diwydiannau gwlân a'r cloddio am blwm yn gyflym ac yna dirywio wnaethant, gan gynnig y cyfle i bobl leol gael gwaith ond hefyd daeth llawer o broblemau yn sgil hyn.
O ganlyniad i'r pwysau am degwch i bobl gyffredin y taniwyd y bobl i derfysga yn nherfysg y Siartwyr.

Defnyddiwch y cysylltiadau a welwch chi nesaf i gael gweld mwy am y newidiadau yma.

 

Fe fyddem yn gwerthfawrogi cael adborth gan athrawon, plant ac eraill sydd â diddordeb yn ein prosiect. Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglyn â'r safle anfonwch ebost at Gavin Hooson:

gavin@powys.gov.uk

Diolch am eich help.

 

 
 
 
 
 
 
Yn ôl i dop
Ewch i’r ddewislen lleoedd