Llanidloes Bu damwain drên drasig yn Nhylwch
yn 1899, sydd i’r de o Lanidloes ac
yn agos at y ffin rhwng Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed. Digwyddodd y ddamwain
ger yr hen orsaf reilffordd yn Nhylwch,
oedd ar y ffordd rhwng Llanidloes a Rhaeadr. Mae’r rheilffordd wedi bod ar gau
ers blynyddoedd. Ty preifat yw hen orsaf
y rheilffordd nawr, ac mae Tylwch yn gymuned fach heddychlon a leolir
mewn dyffryn deniadol iawn, ond dros ganrif yn ôl digwyddodd un o’r trychinebau
cynharaf a ddigwyddodd o dro i dro pan oedd y rhwydwaith
rheilffordd yn tyfu’n eithriadol o gyflym yn ystod oes Fictoria.
Y
damwain rheilffordd
Damwain
drên yn Nhylwch yn 1899
Dangosir
yr orsaf reilffordd yn Nhylwch
ar y rhan yma o fap 1904. Mae’r ffordd
sydd ar ben y map yn mynd i Lanidloes,
ac mae’r ffordd sydd ar y gwaelod
ger Rock Cottage yn mynd i Raeadr.
Dangosir Afon Dulas mewn glas.
Edrychwch ar y dudalen nesaf os ydych am wybod mwy am ddamwain drên Tylwch…