Llanidloes
Y damwain rheilffordd
Mwy am..
Damwain drên yn Nhylwch yn 1899  
 

Er bod Tylwch yn eithaf pell ac anghysbell, roedd y rheilffordd a’r orsaf fechan yn darparu cyswllt gyda’r rhwydwaith 1899 photo of accidentrheilffordd Fictoraidd ar gyfer y bobl leol a nwyddau. Digwyddodd y ddamwain yno ar yr 16eg o Fedi, 1899. Cafodd trên cludo post oedd newydd gyrraedd yr orsaf ei daro gan drên cludo pobl ar yr un trac. Roedd y trên wedi gadael Llanfair-ym-Muallt yn gynnar y bore hwnnw ar wibdaith i Fanceinion. Lladdwyd merch ifanc 24 mlwydd oed wrth i’r trên daro i mewn i’r trên post. Newydd ddal y trên yr oedd hi a’i chariad yn yr orsaf cyn hynny.

Y ddamwain yn 1899 fel a welwyd o’r bont dros y rheilffordd. Mae’r bwrdd sydd a’r enw ‘Tylwch Station’ arno yn gorwedd ar y clawdd sydd y tu ôl i weddillion y trênnau.
  Ffotograff 1899 Anafwyd pump o bobl eraill o ardal Llanidloes yn ddifrifol yn y ddamwain. Ar flaen yr hen ffotograff yma, gwelir bod y cerbydau oedd yn cludo’r teithwyr wedi’u difrodi. Ymhellach yn ôl gallwch weld y ddau locomotif stêm yn wynebu ei gilydd, ac ychydig iawn o ddifrod a wnaed i’r rhain. Os ydych chi erioed wedi gweld hen injan stêm rydych yn gwybod eu bod yn beiriannau solet a chryf iawn, ac roedd yn amlwg bod y cerbydau yn dioddef cryn ddifrod yn y trawiad.
Mae mwy am ddamwain Tylwch ar y dudalen nesaf…
 
  Mwy am y ddamwain reilffordd..