Llanidloes
Terfysg y Siartwyr
  Trafferthion ar droed ymysg y gweithwyr  
 

Yn 1839 daeth Llanidloes yn adnabyddus dros y wlad i gyd fel un o'r canolfannau lle'r oedd mudiad chwyldroadol yn tyfu ymysg y dosbarth gweithiol. Yr enw ar hyn oedd Siartiaeth a gychwynnodd, achos bod y bobl gyffredin yn cael eu trin yn wael iawn ac ni roddwyd yr hawl iddynt bleidleisio er mwyn medru gwella'u bywydau.
Dim ond y bobl mwy cyfoethog oedd yn berchen eiddo, oedd â'r hawl i bleidleisio, ac roedd y system wleidyddol i gyd o blaid y cyfoethog a'r bobl bwerus.

 
  Photograph of plaque
Y plac sydd ar y Trewythen Arms yn Stryd y Dderwen Fawr i gofnodi digwyddiadau 1839
 

Yr enw ar y grwp o brotestwyr, a gychwynnodd yn Llundain oedd y Siartwyr, a hynny oherwydd siarter oedd â chwe gofyniad ar y llywodraeth i newid pethau er gwell.
Y prif ofyniad oedd y bleidlais i bob dyn (hawliwyd y bleidlais i ferched flynyddoedd yn ddiweddarach gan y swffragetiaid) ac nid dim ond y bleidlais i'r cyfoethog. Hefyd roeddynt am i fwy o bobl gael y cyfle i fod yn Aelodau Seneddol yn y dyfodol, gan mai dim ond y rheini oedd yn berchen ar eiddo oedd yn medru bod yn AS yr adeg hynny. Roedd hyn yn meddwl mai dim ond perchnogion tai mawr, ystadau a ffatrïoedd a'r ffermwyr cyfoethog oedd yn byw'n lleol oedd yn dal yr holl bwer ac yn medru pleidleisio i wneud yn siwr fod pethau'n aros fel ag yr oeddynt !
Ond dechreuodd y gweithwyr wrthryfela yn erbyn y system...

Mwy am y Siartwyr yn Llanidloes..

 
 

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes