Llanidloes
Terfysg y Siartwyr
Beth am y gweithwyr ? |
Geirfa
|
|
Yn ogystal â methu pleidleisio, roedd
llawer o resymau eraill pam wnaeth y gweithwyr cyffredin godi yn erbyn
y dosbarth oedd yn llywodraethu yn yr 1830'au. Arweiniodd y sefyllfa at drais mewn sawl ardal, gyda therfysg mewn trefi diwydiannol a llosgi teisi mewn ardaloedd cefn gwlad. Dyma gyfnod y Merthyron Tolpuddle enwog a drawsgludwyd yn 1834 am brotestio am y system annheg. |
tas
(teisi) - llwyth uchel o wair neu wellt sy'n debyg i siâp ty
ac sy'n cael ei gadw yn yr awyr agored nes bod ei angen. cyfiawnder
- tegwch cyfreithiol rhwng dyn a'i gyd-ddyn
grym - nerth neu gryfder corfforol |
|
Sefydlwyd
canghennau o'r mudiad Siartaidd yn Y Drenewydd a Llanidloes yn 1838.
Un o'r llefydd roedd yr aelodau lleol yn arfer cyfarfod oedd yn Ngwesty'r
Llew Coch yn Llanidloes. Roedd rhai am newid pethau trwy siarad ynglyn â chyfiawnder yr hyn roeddynt ei eisiau, ond roedd eraill am newid pethau trwy rym… |
||