Llanidloes
Terfysg y Siartwyr 3
  Ar y ffordd i'r Trewythen Arms..  
 

Erbyn dechrau 1839 roedd y tirfeddianwyr lleol, ynadon, aelodau'r eglwys ac eraill oedd â'r holl rym yn yr ardal yn dechrau gofidio o achos y sibrydion am wrthryfel arfog yn eu herbyn.
Fel arfer dim ond gwyliwr nos a chwnstabliaid rhan amser nad oedd yn cael eu talu oedd ar ddyletswydd yn y dref, felly anfonodd yr ynadon am ragor o bobl i gadw trefn...

 
 

Anfonwyd tri phlismon i Lanidloes o Lundain, a ffurfiodd Thomas Marsh, un o dirfeddianwyr cyfoethocaf yr ardal, Portrait of Thomas Marsh'fyddin breifat' tua 300 o ddynion lleol wedi'u harfogi â ffyn. Gweithwyr neu denantiaid Marsh oedd y bobl yma yn fwy na thebyg, pobl oedd yn gorfod gwneud fel ag yr oedd Marsh yn dweud. Fel fwy neu lai holl weithwyr cyffredin y cyfnod ychydig iawn o arian yr oeddynt yn ei ennill a gallent golli eu swyddi a'u cartrefi os nad oeddynt yn gwneud fel ag yr oedd y dosbarth uwch yn dweud. Pe baent yn gallu fe fyddent wedi cefnogi'r Siartwyr.
Roedd cyfarfod hefyd yn cael ei gynnal gan y Siartwyr yn Llanidloes ar 30ain Ebrill, 1839 pan arestiwyd tri o'r aelodau gan y plismyn o Lundain. Aethpwyd â nhw i'r Trewythen Arms yn Stryd y Dderwen Fawr, a phan ddaeth y dorf i glywed beth oedd wedi digwydd i'w cefnogwyr aethant i gyd i'r adeilad...

Edrychwch i weld beth ddigwyddodd nesaf..

 

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes