Llanidloes
Terfysg y Siartwyr
  Ymladd i ryddhau'r Siartwyr!  
 

Pan gyrhaeddodd y dyrfa oedd yn cefnogi'r Siartwyr y Trewythen Arms yng nghanol Llanidloes, roedd 'byddin breifat' oddi amgylch iddo wedi'u harfogi â ffyn mawr.
Roedd y dyrfa yn flin iawn am hyn ac ymosod ar yr adeilad wnaethant er mwyn ceisio cael y tri Siartydd yn rhydd, y tri a arestiwyd gan blismyn Llundain. Anafwyd un plismon yn ddrwg, ond dihangodd y ddau arall a mynd i guddio, gan eu bod yn ofni’r dyrfa gymaint.

 
Drawing of the attack by Chartistsdarlun gan Rob Davies
 

Roedd tu fewn yr adeilad wedi'i ddinistrio'n llwyr ond roedd yr awdurdodau, oedd yn ofni colli eu pwer, Drawing of attackyn dweud fod yna chwyldro arfog difrifol yn digwydd.
Dim ond ffyn a dyrnau oedd gan y rhan fwyaf o gefnogwyr y Siartwyr i ymladd â hwy, ond gofynnwyd i Arglwydd Raglaw Castell Powis anfon byddin er mwyn ennill rheolaeth o'r dref. Felly roedd cannoedd o filwyr arfog ar eu ffordd i roi'r gweithwyr druan yn ôl yn eu lle, ac i'w gorfodi i wneud fel yr oedd eu "gwell" yn dweud wrthynt...

Y Marchoglu yn dod i'r dref..

Ble mae'r dyn yn yr het silc?
 

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes