Llanidloes
Terfysg y Siartwyr 4
Y Marchoglu yn dod i'r dref | ||
Cyrhaeddodd y milwyr ychwanegol Llanidloes
ar ôl ychydig ddiwrnodau, ac yn y cyfamser y Siartwyr
eu hunain oedd yn cadw trefn yn y dref! |
Mae
hwn yn rhan o rybudd gwobrwyo wnaeth addo can punt am ddal arweinydd y Siartwyr gafodd ei achub gan y dyrfa o gefnogwyr. Roedd hwn yn swm mawr iawn o arian yn 1839! |
Caewyd y dref gan y milwyr ac arestiwyd dros dri deg o Siartwyr, gan gynnwys tair merch, a'u hanfon i garchar Trefaldwyn. Er mai ychydig iawn wnaeth geisio eu rhwystro yn y dref, arhosodd y milwyr yn y dref tan y flwyddyn wedyn. Yn dilyn achos y rheini wnaeth gymryd rhan i ryddhau'r Siartwyr a arestiwyd, dedfrydwyd tri o ddynion Llanidloes i'w halltudio o Woolwich ym mis Hydref 1839. Cymerodd sawl blwyddyn, ond rhoddwyd y rhan fwyaf o'r hawliau y bu'r Siartwyr yn gofyn amdanynt. |
||
|
||