Llanidloes
Cloddio am blwm yn yr ardal
  Un o fwyngloddiau cyfoethocaf Prydain  
 

Mae rhai o safleoedd yr hen fwyngloddiau yn ardal Llanidloes yn dyddio yn ôl i pan roedd y Rhufeiniaid ym Mhrydain, neu hyd yn oed cyn hynny. Ond yn ystod oes Fictoria y daeth y mwyngloddiau plwm yn bwysig iawn, gan ddod â gwaith a llewyrch i’r ardal.

 
Gweithfeydd Y Fan
ger Llanidloes
Engraving of the Van Mines Archifdy Sir Powys
  Y gwaith mwyaf llwyddiannus oedd Gweithfeydd y Fan. Mae gwahanol gwmnïau wedi bod yn gweithio’r safle yma ers yr 1850au, ond yn 1865 daethpwyd o hyd i wythïen oedd â llawer o blwm ynddi o dan y ddaear yn Y Fan.
Roedd y gwaith yn gwneud yn dda iawn am rai blynyddoedd wedi darganfod y wythïen hon, ac erbyn 1876 roedd yn cynhyrchu miloedd o dunelli o blwm gan ddarparu llawer o waith i’r bobl leol. Roedd gymaint â 700 o ddynion yn gweithio yno pan oedd y gwaith ar ei brysuraf.
 
 

Yn ystod llawer iawn o gyfnod Fictoria roedd yna alw mawr am blwm ar gyfer pibellau, toeon, cynhyrchu paent a phethau eraill hefyd.

Mwy am weithfeydd Y Fan..
.