Llanidloes
Cloddio am blwm yn yr ardal
  Pentref newydd ar gyfer y gweithwyr plwm  
 

Wrth i faint y plwm oedd yn cael ei gynhyrchu yng Ngweithfeydd Y Fan gynyddu ar ôl dod o hyd i wythïen newydd yn 1865, tyfodd cymuned hollol newydd o amgylch y gweithfeydd. Gan fod angen mwy a mwy o weithwyr yn y gweithfeydd plwm, adeiladwyd pentref newydd gydag ysgol a chapeli eu hunain. Teras o fythynnod y gweithwyr

Roedd rhai o’r gweithwyr yn gweithio mewn gweithfeydd llai llewyrchus oedd yn yr ardal ac roedd eraill yn cael eu denu i’r gwaith newydd cyfoethog o fannau eraill o Gymru. Nid oedd rheolwr Gweithfeydd Y Fan yn fodlon i bobl yfed ac roedd yn ddyn crefyddol iawn, felly roedd dau gapel, ond dim un ty^ tafarn yn y pentref newydd ! Agorwyd tafarn o’r enw Van Vaults yn Llanidloes yn 1877 ar gyfer gweithwyr sychedig, ond roedd yn rhaid iddynt aros am hir cyn cael rhywbeth i’w yfed!

Teras o fythynnod y gweithwyr
ym Mhentref Y Fan, sy’n dangos
y llinell rheilffordd newydd sy’n cysylltu gyda’r brif linell yng Nghaersws.
Y Swyddfa Bost ym mhentref Y Fan yn yr 1890'au

Roedd yna gymuned fywiog yno am flynyddoedd lawer, ond nid oedd Gwaith y Fan yn gwneud cystal Y Swyddfa bosttua diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Roedd metalau rhatach yn cael eu hallforio o wledydd eraill wrth i systemau cludiant wella, a symudodd llawer gyda’u teuluoedd i dde Cymru i weithio yn y pyllau glo.

Caewyd ac agorwyd y gweithfeydd ar adegau gwahanol, ond erbyn 1910 roedd y gwaith ar un adeg yn waith plwm mwyaf Prydain yn dechrau methu a chaewyd y gwaith yn gyfan gwbl yn 1921. Wrth i’r swyddi ddiflannu symudodd llawer o’r pentref, a gwag oedd llawer o’r adeiladau. Mae hanes tebyg iawn i waith plwm enwog sydd ymhellach i ffwrdd o Lanidloes...

 
 

Y gwaith plwm gyda’r olwyn fawr..
.