Powys yn yr Oes Fictoria at ddefnydd ysgolion cynradd
Prosiect Hanes Digidol Powys
         
Llanidloes
Graffiau poblogaeth
 
  Ffigurau cyfrifiad ar gyfer yr ardal  
  Newidiodd poblogaeth Dyffryn Hafren Uchaf trwy gydol cyfnod Fictoria wrth i ddiwydiannau wneud yn dda neu ddioddef, ac o ganlyniad roedd yn rhaid i bobl symud o gwmpas i chwilio am waith. Mae gwybodaeth ynglyn â’r boblogaeth leol wedi’i gofnodi yn y cyfrifiad, a gynhelir bob deng mlynedd. Cyflogwyd dynion i deithio o amgylch yr ardal yn cofnodi pwy oedd yn byw ym mha dy a beth oedd eu gwaith. Mae’r ffigurau poblogaeth yn dod o’r cofnodion yma.  
 

map o ardal LlanidloesRhannwyd Prydain yn blwyfi (fel y dangosir ar y map) ac mae’r ffigurau yn cofnodi faint o bobl oedd yn byw yn y plwyf. Fel arfer y plwyf oedd y pentref o amgylch eglwys y plwyf a’r ardal oddi amgylch iddo. Roedd sawl cymuned fechan yn rhan o rai plwyfi.

Dewiswch o’r rhestr a welwch chi i weld graffiau poblogaeth ar gyfer rhai o’r llefydd lleol yng nghyfnod Fictoria.

 
 
Carno
Llanwnog
 
 
Trefeglwys
Llandinam
 
 
Llangurig
Llanidloes
 
 

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanidloes