Llanidloes
Ffotograffau Fictoriaidd
  Pwmp dwr cyhoeddus Llanidloes  
 

Am y rhan fwyaf o gyfnod Fictoria roedd yna bwmp dwr mawr ar ganol y ffordd yng nghanol Llanidloes. Roedd y pwmp yn Long Bridge Street, union wrth ymyl yr hen Neuadd Farchnad.
Tynnwyd y llun yma tua 1895, yn edrych draw ar hyd Short Bridge Street. Yn y dyddiau cyn y byddai dwr yn cael ei bwmpio i’r rhan fwyaf o dai a busnesau, roedd y pwmp dwr cyhoeddus yn wasanaeth pwysig iawn i lawer o drefi a phentrefi.

 
Yn y llun yma o’r hen bwmp
gallwch weld lamp ar fraced
ynghlwm wrth y Neuadd Farchnad
ar y chwith, a hefyd rhan o’r
"Garreg Wesley" enwog.
 

Mae yna gwpan yfed ar gadwyn ynghlwm wrth y pwmp, rhoddwyd hwn yno yn 1895 – rhyw fath o ffynnon yfed gynnar !
Yn ddiweddarach dechreuodd pobl gwyno ynglyn â’r dwr oedd yn dod allan o’r pwmp, nad oedd cystal â beth rydym ni’n disgwyl heddiw ! Tynnwyd dolen y pwmp oedd yn gwneud i’r pwmp weithio oddi yno yn 1905, a thynnwyd y pwmp cyfan oddi yno gan nad oedd ei angen rhagor.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes