Llanidloes
Ffotograffau Fictoriaidd
  Stryd y Dderwen Fawr  
 

Tynnwyd yr hen lun yma yn edrych i lawr Stryd y Dderwen Fawr tuag at y Neuadd Farchnad yng nghanol y dref. Mae’r llun yma yn un hen iawn, gan iddo gael ei dynnu cyn 1869.
Cafodd rhai o’r adeiladau isel sydd ar ochr dde yr olygfa yma eu dymchwel yn y blynyddoedd dilynol er mwyn gwneud lle i Neuadd y Dref. Gorffennwyd y gwaith yn 1908, ychydig flynyddoedd wedi diwedd cyfnod Fictoria.

 
Stryd Y Dderwen Fawr cyn  1869Beth, dim ceir?
 

Great Oak Street,1999Mae llawer o’r adeiladau yn y stryd yn edrych yn debyg iawn i fel ag y maent yn y llun modern ar y dde.
Mae’n hawdd gweld pa un yw Neuadd y Dref oherwydd y twr cloc mawr. Gallwch weld y Trewythen Arms, lle digwyddodd gwrthryfel enwog y Siartwyr yn 1839, ar ochr chwith y llun. Yn y ffotograff newydd mae’n hawdd i’w weld gan ei fod yn adeilad o friciau coch gyda phortsh du ar ei du blaen.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes
RDR