Llanidloes
Ffotograffau Fictoriaidd
Crïwr tref Llanidloes | ||
Tynnwyd y llun sydd ar y dudalen
yma tua 1905, sef ychydig ar ôl oes
Fictoria. Ond gan ei fod yn llun mor dda penderfynasom ei gynnwys beth
bynnag! |
Pe bai
rhywun yn dyfeisio radio a theledu cyn hir ni fydd gwaith gennyf! |
Cafodd y gwaith fel Crïwr y Dref
yn 1897, ac roedd yn un o gefnogwyr
y Siartwyr, felly
mae’n rhaid ei fod yn eitha hen yn 1905 ! Wrth iddo heneiddio, rhoddwyd
cloch lai ac ysgafnach iddo gan nad oedd mor gryf ag y bu ac roedd ei
lais hefyd yn gwanhau. Nid oedd Crïwr y Dref yn cael gwisg gan y dref
– dim ond cloch ac ychydig iawn o
arian! |
A
ddylwn i frathu ei goes?
|
|