Llanidloes
Ffotograffau Fictoriaidd
  Dosbarthu yn Stryd y Dderwen Fawr  
 

Mae’r llun yma yn dangos cert dwy olwyn yn dosbarthu yn Stryd y Dderwen Fawr, Llanidloes.
Tynnwyd y llun yn fwy na thebyg tua 1899, ar ddiwedd cyfnod Fictoria. Y siop y tu cefn i’r cert oedd siop Evan Williams yr Haearnwerthwr, a’r siop gyntaf yn y rhes y tu draw iddo oedd siop Lewis Jones y teiliwr.

 
Ffotograff trwy
ganiatâd caredig Mr Cyrus Meredith
Delivery cart in Great Oak StreetDyna beth yw llawer o hetiau !!
 

Yn fuan wedi tynnu’r llun yma cafodd y rhes o adeiladau sydd y tu cefn i’r cert eu dymchwel ar ddechrau’r 1900’au er mwyn gwneud lle i Neuadd y Dref.
Y Milk Bar sydd bellach yn y man lle gwelir siop yr haearnwerthwr yn y llun.
.

 

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes
RDR