Llanidloes
Ffotograffau Fictoriaidd
  Yr Hen Neuadd Farchnad  
 

Mae’r llun hwn yn dangos yr hen Neuadd Farchnad sy’n 400 mlwydd oed ar y groesffordd yng nghanol y dref. Roedd y farchnad yn cael ei chynnal bob wythnos ar y rhan sydd â cherrig cobl arno oddi tano. Ym mlynyddoedd cynnar cyfnod Fictoria pan oedd diwydiant gwlanen Llanidloes yn gwneud yn dda, roedd bwndeli mawr o wlanen oedd yn cael eu cynhyrchu a’u prosesu yn yr ardal yn cael eu cludo i Neuadd y Farchnad cyn iddynt gael eu cludo i’r Trallwng i’w gwerthu.

 
Neuadd Farchnad tua1900
 

Tynnwyd yr hen ffotograff a welwch chi o’r Neuadd Farchnad ar ôl 1897, pan ddefnyddiwyd yr adeilad gyntaf fel 'Working Ffotograff modern o'r Neuadd FarchnadMen's Institute and Library'.
Defnyddiwyd y drws mawr sydd ar y llawr uchaf un tro i lwytho a dadlwytho gwlân a gwlanen. Gallwch hefyd weld y grisiau sy’n arwain fyny i’r llawr uchaf y tu cefn i’r ddau ddyn ar y chwith. Mae’r llun diweddar yma ar y dde yn dangos y ddau ddrws yma wedi iddynt gael eu cau, ond mae’r Neuadd Farchnad hynafol yn edrych yn debyg iawn i fel ag yr oedd o hyd.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes
RDR