Llanidloes
Ffotograffau Fictoriaidd
  Long Bridge Street  
 

Tynnwyd y ffotograff yma tua 1882 ac mae’n dangos golygfa ar hyd Long Bridge Street yn Llanidloes ar ddiwrnod gweddol brysur i bobl y dref. Ni allwch gerdded ar hyd y stryd fel hyn heddiw !
Tynnwyd y llun yma o lawr uchaf Neuadd y Farchnad, a byddai’r hen bwmp dwr wedi cael ei leoli o dan y ffotograffydd. Y 'Trade Hall' yw’r adeilad ar flaen y llun ar y dde, a adeiladwyd yn yr 1860'au ar gyfer busnes defnydd a dillad Morris and Sons. Rhwng tua 1900 a 1968 roedd Swyddfa Bost Llanidloes yma.

 
Long Bridge Street,1880's
 

Mae’r Van Vaults, sef tafarn a enwyd ar ôl gweithfeydd plwm Y Fan, yn y bloc nesaf ar y dde. Agorwyd y dafarn yn Llanidloes gan nad oedd y pentref wrth ymyl y gwaith yn caniatáu cael lle i yfed alcohol !
arwydd Red Lion Mae’n ddigon hawdd gweld y Red Lion Inn ar ochr chwith y llun, oherwydd y llew mawr wedi’i wneud o garreg sy’n sefyll at dop y portsh (Mae yno hyd heddiw !).
Roedd y dafarn yn un o’r llefydd yn Llanidloes lle’r oedd y Siartwyr yn arfer cyfarfod yn yr 1830'au i siarad ynglyn â chael gwell amodau i’r dosbarth gweithiol.
.

Rwyf wedi bod fyny
fan hyn ers blynyddoedd!
 

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes
RDR