Llanidloes
Ffotograffau Fictoriaidd
  Nodwedd reolaidd yn Neuadd y Farchnad  
 

Tynnwyd y ffotograff yma yn fwy na thebyg tua 1900, ar ddiwedd teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.
Mae’n dangos Mary Brown, oedd yn dod i’r Neuadd Farchnad yn rheolaidd i werthu ffrwythau a llysiau am nifer fawr o flynyddoedd. Bu farw ar ddechrau’r 1900'au. Nodwyd mewn llyfr a gyhoeddwyd am Lanidloes yn 1908 ei bod wedi bod yno mor hir ei bod bron â dod yn un o sefydliadau parhaol y fwrdeistref.

 
Fi oedd yma gyntaf !
 

Ychydig flynyddoedd wedi i’r llun yma gael ei dynnu, roedd y rhai oedd yn gwerthu yn y farchnad yn medru defnyddio Neuadd y Farchnad ar lawr gwaelod y Neuadd Dref newydd. Agorwyd yr adeilad yma yn Stryd y Dderwen Fawr yn 1908, ac roedd ganddo fwâu mawr yn y blaen y gellid eu cau gan gatiau haearn.
Roedd yna swyddfeydd yn y farchnad newydd ar gyfer y taliadau, ystafell i gael bwyd a diod, a thoiledau, felly roedd y gwerthwyr yn ddigon balch i gael symud i’r adeilad newydd ar ddiwrnodau marchnad.
.

 

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes
RDR