Llanidloes
Ffotograffau Fictoriaidd
  Dosbarthu ar y cert asyn  
 

Tynnwyd y llun yma yn Llanidloes pan oedd y dyn glo lleol (o’r enw Billy Doodle !) yn defnyddio cert wedi’i dynnu gan ddau asyn i ddosbarthu bagiau glo i’w gwsmeriaid !
Yn fwy na thebyg tynnwyd y llun tua 1900 yn Stryd Smithfield, oedd ym mhen deheuol y dref bryd hynny.
Bythynnod gwehyddion oedd y tai yn y cefndir, gyda ffenestri mawr i fyny grisiau er mwyn iddynt fedru gweithio yn gwneud defnydd am gymaint o amser â phosibl yn ystod golau dydd.

 
1900 photo of donkey cart
 

Roedd Ysgol Genedlaethol Llanidloes a agorwyd yn 1845, hefyd yn Stryd Smithfield wrth ymyl y bythynnod yma.
Mae yna sawl darn o ddyddiaduron yr Ysgol Genedlaethol ar dudalennau ysgolion yn y rhan yma o’r wefan.
.

 

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llanidloes
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanidloes
RDR