Aberhonddu a'r cylch
Bywyd ysgol
  Mynd i’r ysgol - dros 120 o flynyddoedd yn ôl !  
 

Mae’r tudalennau hyn yn help i ddangos sut beth oedd bod yn yr ysgol yn ystod blynyddoedd olaf teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Maent yn defnyddio cofnodion o Lyfrau Cofnod swyddogol neu ddyddiaduron ysgolion lleol, sy’n aml yn sôn wrthym am fywyd yn y gymuned gyfan ac nid dim ond yr ysgol ei hunan.
Nid oedd y rhan fwyaf o blant yn mynd i’r ysgol ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Byddai tirfeddianwyr cyfoethog yn sicrhau bod eu plant yn derbyn addysg gartref a byddai rhai masnachwyr yr ardal yn anfon eu plant i ysgolion preifat.
Byddai gan blant y tlawd waith i fynd iddo cyn gynted ag yr oeddynt yn ddigon hen i ennill arian i’r teulu.
Erbyn diwedd cyfnod Fictoria, darparwyd ysgolion rhad ac am ddim ac fe ddaeth hi’n orfodol i anfon pob plentyn i’r ysgol.

Group of children
   
   
   
   
   
   
   
   
   
 

Yn ôl i ddewislen Aberhonddu
.

.