Aberhonddu a'r cylch
Bywyd ysgol
Rhieni yn colli gwaith  
  Er bod Llyfrau Cofnod swyddogol ysgolion oes Fictoria yn ymwneud yn bennaf â digwyddiadau dyddiol o fewn yr ysgol ei hunan, gallant ddweud wrthym weithiau beth sy’n digwydd yn yr ardaloedd cyfagos ar wahanol adegau.
Daw’r enghraifft cyntaf yma o Ysgol Llanfrynach yn 1891...
 
22 Rhagfyr
1891
School diary entry "Several families have left the district, some attracted by the higher wages of the mining districts, and others through being thrown out of employment by the substitution of pasture for tillage on a large farm in the parish".
 

Mae hyn yn sôn am newidiadau o ran rhagolygon am swyddi lleoli mewn diwydiant ac mewn amaethyddiaeth. Yr ardaloedd mwyngloddio y symudodd y teuluoedd hyn iddynt oedd cymoedd glo de Cymru.
Mae "substitution of pasture for tillage" yn golygu bod y caeau a ddefnyddiwyd ar gyfer pori anifeiliaid bellach yn cael eu defnyddio i dyfu cnydau ac o ganlyniad, fe gollodd y gweithwyr fferm eu swyddi. Mae’r cofnod nesaf o ddyddiadur Ysgol Nantddu yn 1899...

Victorian mine
24 Chwefror
1899
School diary entry "Owing to the completion of the Cardiff Waterworks the families are leaving the parish, which is very prejudicial to the interests of the school, nine children have left during the past quarter".
 

Gyda chynnydd anferthol mewn cynhyrchu ar raddfa eang ym mlynyddoedd Fictoria, tyfodd poblogaethau dinasoedd diwydiannol megis Lerpwl, Birmingham a Chaerdydd yn gyflym wrth i bobl symud yno i chwilio am waith.
Roedd angen cyflenwadau da o ddwr glân i osgoi afiechydon mewn slymiau oedd yn orlawn o bobl, a chafodd nifer fawr o lafurwyr eu llogi wrth adeiladu cronfeydd dwr. Byddai eu plant yn mynd i’r ysgolion lleol hyd nes y byddai’n rhaid i’w rhieni symud i chwilio am ragor o waith.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Aberhonddu
.

.

Am fwy ynglyn â phrosiectau dwr mawr oes Fictoria ym Mhowys, edrychwch ar ein tudalennau ar Gwm Elan (dwr i Firmingham) ac ar Lyn Efyrnwy (dwr i Lerpwl).