Aberhonddu Fictoriaidd
Aberhonddu
a thir mynyddig Sir Frycheiniog
|
||
O Fynydd Epynt yn y gogledd i gribynnau mawreddog y Bannau yn y de, mae’r ardal hon sydd dal yn wledig ei naws yn cynnwys cymunedau mynyddig gwasgaredig, wedi’i rhannu gan dirwedd mwynach Cwm ysg. Ym mlynyddoedd cynnar teyrnasiad y Frenhines Fictoria, roedd bron iawn pawb yn nhref Aberhonddu’n gweithio ar y tir neu mewn swyddi’n gysylltiedig â hyn. Efallai nad yw’n ymddangos bod rhai o gymunedau gwledig yr ardal wedi newid rhyw lawer ym mlynyddoedd oes Fictoria, ond fe newidiodd bywydau’r bobl leol. Gwelwyd llawer o newidiadau yn hen dref sirol Aberhonddu yn ystod oes Fictoria. Roedd cysylltiadau o ran cludiant megis y gamlas ac yna’n ddiweddarach y rheilffordd, yn golygu cyfleoedd newydd, ond gyda’r rhain, daethpwyd â nwyddau rhatach oedd yn fygythiad i fasnachwyr a gwragedd lleol. |
|
|
|
|||
|
|||