Aberhonddu a'r cylch
Colera yn Aberhonddu
Afiechyd yn taro’r dref yn 1854  
  Yn ystod oes Fictoria, tyfodd trefi ar draws Prydain gyfan yn gyflym iawn wrth i bobl symud i’r trefi o gefn gwlad i weithio mewn diwydiannau newydd.
Nid oedd Aberhonddu yn un o’r trefi diwydiannol mwyaf ond fe dyfodd yng nghyfnod Fictoria gan fod ganddi farchnad lewyrchus a’i bod yn ganolfan i’r ardal leol ynghyd â man yr oedd ymwelwyr yn galw heibio iddo.
 
 

Er bod rhai adeiladau newydd urddasol yn Aberhonddu ar ddechrau oes Fictoria, roedd y tai ar gyfer y dosbarthiadau gweithiol tlotach yn orlawn, llaith a heb eu hawyru’n iawn ar y cyfan.
Dywedodd adroddiad yn 1845 mai’r ardaloedd a effeithiwyd waethaf oedd Bailey Glas, Kensington, pen y Struet, a Heol Hwnt yn Llanfaes. Roedd yr amodau hyn yn eu hunain yn ddigon gwael ond gwaeth byth, roeddynt yn berffaith i ledaenu afiechydon.
Problem arall oedd diffyg dwr glân. Roedd y dref yn cael ei dwr o gronfa ddwr agored islaw mynwent y Priordy.

 

Byddai dwr yn cael ei bwmpio iddi o’r afon a’i basio o amgylch y dref drwy bibellau. Gan fod y gronfa’n agored, byddai mwd a dail yn chwythu i mewn iddi ac roedd dwr yr afon yn aml yn llawn o fwd a darnau o bren ymysg pethau eraill.
Y drydedd broblem oedd carthffosiaeth. Roedd nifer o dai yn Aberhonddu yn rhannu tai bach oedd yn gollwng i mewn i’r afon neu’r gamlas. Roedd rhai yn arwain at bydew agored oedd yn cael ei wagio ar gyfer ei ddefnyddio fel gwrtaith o bryd i’w gilydd. Byddai’r amodau hyn hefyd yn lledaenu afiechydon.
Roedd Colera yn afiechyd a ddaeth gyntaf i Brydain cyn i Fictoria ddod i’r orsedd. Yn y blynyddoedd a ddilynodd, cafwyd achosion o golera a arweiniodd at farwolaethau yn nifer o’r dinasoedd a rhai achosion llai yn Aberhonddu.
Yn 1854, cafwyd achosion mwy difrifol yn y dref...

Ar ati colera yn Aberhonddu...

.