Aberhonddu a'r cylch
Colera
Ar ati...
Afiechyd yn taro’r dref yn 1854  
  Pan ddaeth yr achosion cyntaf i’r golwg yn Aberhonddu, rhoddodd yr awdurdodau y cyfrifoldeb dros yr ymdrechion i atal yr afiechyd i feddyg lleol.
Dr Thomas Prestwood Lucas ydoedd a fu’n feddyg lleol am nifer o flynyddoedd a’i dad yn feddyg o’i flaen.
Ar yr adeg yma, nid oedd meddygon yn hollol sicr beth oedd yn achosi colera. Roeddynt yn gwybod fod pobl dlawd yn dioddef llawer iawn mwy na phobl gyfoethog, roeddynt yn credu bod amodau lleol i’w beio am yr afiechyd arswydus mewn rhyw ffordd. Roedd Dr Lucas yn meddwl bod carthion oedd yn cael eu gadael y tu allan i rai adeiladau yn dechrau’r afiechyd. Yna, roedd yn meddwl mai draeniau llawn gyda rhwystrau ynddynt oedd yn gyfrifol. Sylwodd nad oedd rhannau gwaetha’r dref yn cael eu heffeithio.
Mae’r llun gyferbyn yn dod o gylchgrawn PUNCH yn yr 1840au.
Roedd PUNCH yn dechrau defnyddio cartwnau i wneud pobl yn ymwybodol o broblemau a phethau anghyfiawn. Yma, mae’r arlunydd yn dangos mai y bobl dlotaf yw’r rheini sy’n dioddef. Mae tad mewn cartref budr a gwlyb yn gorfod edrych ar ôl ei blant wedi i’w wraig farw o’r afiechyd.
 

Labrwr a phlentyn bychan oedd ymysg y bobl cyntaf i farw o’r colera ac yna bu farw labrwr a oedd wedi’i anfon i’r gweithdy. Roedd gweinidog y Bedyddwyr o Lanfair-ym-Muallt yn ymweld ag Aberhonddu pan gafodd yr afiechyd a bu farw.

Fe wnaeth Dr Lucas ymdrechu i wneud ei orau glas i’r sawl a aeth yn sâl. Gyda chymorth meddygon eraill, sefydlodd uned arbennig lle gellid trin y rheini oedd yn sâl â cholera ar wahân i bobl eraill.

 

Roedd pobl leol yn ofni’r afiechyd hwn yn ofnadwy ac nid oeddynt am weld yr uned arbennig unrhyw le’n agos atynt hwy. Yn y diwedd, rhoddwyd rhan o’r tloty i Dr Lucas.
Sylweddolwyd yn raddol bod yr ardaloedd a gafodd eu heffeithio waethaf ar hyd nant Madrell ar ochr orllewinol y dref. Yma, roedd ffos yn cael ei defnyddio fel lle i roi carthion a gwastraff ac roedd dwr o’r ffos hon yn heintio ffynnon oedd yn rhoi dwr yfed i bobl leol.
Erbyn Nadolig 1854 roedd yr argyfwng drosodd, nid oedd colera bellach yn y dref ac roedd 57 o bobl wedi marw. O fewn ychydig flynyddoedd, roedd Nant Madrell yn cael ei chyfeirio drwy cwlfert lle nad oedd yn gallu heintio dwr yfed. Tua diwedd oes Fictoria, roedd meddygon yn deall digon am yr afiechyd i ddatblygu brechiad ac yn raddol bach, diflannodd colera.

Ewch i ddewislen Aberhonddu
.

.