Aberhonddu a'r cylch
Bywyd ysgol
I fyny i’r ‘Ty Mawr’ am de a gêmau  
  Roedd y rhan fwyaf i ysgolion gwledig oes Fictoria yn disgwyl gweld aelodau o deulu’r "Ty Mawr" lleol yn galw heibio yn ystod gwersi ar unrhyw adeg. Byddai disgwyl i’r plant foesymgrymu ac ymddwyn yn barchus a byddai’n rhaid iddynt ganu neu adrodd i’r Map showing Maesderwenymwelwyr.
Nid oedd llawer o athrawon yn hoff iawn o ymyrraeth o’r fath ond roedd y bonedd lleol yn bwerus, felly nid oeddynt yn gallu gwrthwynebu. Ond, roedd teuluoedd o’r fath yn aml yn hael i’r ysgol bentref leol ac yn rhoi ‘danteithion’ i blant yn yr haf a’r Nadolig.
Mae dyddiadur Ysgol Llanfrynach yn disgrifio’r ‘danteithion’ arferol a ddarparwyd gan y teulu de Winton ym Maesderwen yn 1867...
"We broke up yesterday, mid-day, for a month, and commenced our holidays by attending the annual treat, very kindly given by H.P.Powell Esq and Mrs Powell, Castle Madog".
Ysgol Castell Madog
26 Gorffennaf, 1894
26 Medi
1867
School diary entry "A very fair attendance in the morning. No school in the afternoon. Tea drinking at Maesderwen. Several prizes given to the most regular attendants at school. There were 4 prizes given to each class, 2 to boys and 2 to girls. Two prizes were also given to the girls most attentive to needlework".
 

"Boys and girls amused themselves after tea by running races, jumping etc for money given by the ladies and Mr W.de Winton".

Roedd y 'danteithion' hyn mae’n amlwg yn boblogaidd iawn gyda’r plant ac roeddynt yn gwneud gwahaniaeth mawr i wella’r nifer o ddisgyblion oedd yn dod i’r ysgol. Yng Ngorffennaf 1894, roedd dyddiadur yr un ysgol yn nodi -
"The attendance since the examination has been much better than usual. This is no doubt owing to the fact that the school treat is fixed for tomorrow".
Yn anffodus, nid oedd presenoldeb gwell yn parhau’n hir fel arfer wedi i’r danteithion ddod i ben !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Aberhonddu
.

.

Tea party