Aberhonddu a'r cylch
Bywyd ysgol
Pryderon am arian gan rieni oes Fictoria  
Victorian penny
Roedd yn rhaid i nifer o rieni frwydro i fyw ar incwm isel iawn ar adeg pan nad oedd cymorth gan y llywodraeth eto ar gael a’r ofn o fynd i’r tloty yn dal yn fygythiad parhaol.
Mae yna gyfeiriadau cyson at y pryderon hyn am arian yn Llyfrau Cofnod yr ysgolion. Roedd plant yn absennol yn aml oherwydd bod angen eu cymorth ar rieni i wneud bywoliaeth ar y fferm neu i werthu cynnyrch yn y farchnad leol.
Mae’r holl ddarnau hyn o Ysgol Battle...
"Nellie Penny left this school for the Brecon Board School, because she was sent home for her school money".
Ysgol Genedlaethol y Merched Aberhonddu
30 Ionawr, 1891
20 Tachwedd
1891
School diary entry "A few absent today, it being market day at Brecon when parents go with dairy produce etc"
Roedd nifer o deuluoedd yn byw mewn 'bythynnod cyswllt'(tied cottages) oedd yn golygu fod y gwas yn cael bwthyn am weithio yno ond os byddai’r swydd yn dod i ben, roedd rhaid iddynt adael a dod o hyd i rywle arall i fyw. Yn aml, roedd hyn yn golygu bod rhaid i’r plant adael yr ysgol... Victorian penny
4 Ebrill
1892
School diary entry "Two girls, Mary Phillips 'Standard VI' and Annie Jenkins 'Standard IV' have left this School for Trallong owing to the parents having notice to leave the cottage at Aberyscir".
Ond o leiaf daeth yr angen i ddod o hyd i arian i dalu am wersi ysgol - y 'geiniog ysgol' - i ben ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion yn 1891...  
2 Hydref
1891
School diary entry "Attendance Officer called on Wednesday and explained to children that the board would deal now more severely than ever with absentees, as there could be no excuse brought forward about school fees"...
 

O ganlyniad i ddiwedd y ffioedd ysgol, nid oedd rhieni ychwaith yn gallu rhoi esgusodion (ac esgus go iawn ydoedd i nifer o rieni) dros beidio ag anfon eu plant i’r ysgol !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Aberhonddu
.

.