Aberhonddu a'r cylch
Bywyd ysgol
Mae'r bechgyn wedi mynd 'i'r cwn'  
  Heblaw am helpu gyda gwaith arferol ar y fferm megis y cynhaeaf, roedd nifer o blant hefyd yn colli ysgol ar ddyddiau marchnad, dyddiau Ffair, ac yn ystod digwyddiadau lleol eraill.Running hare
Un o’r atyniadau hyn oedd gem "coursing", pan fyddai milgwn yn cael eu gollwng i redeg ar ôl ysgyfarnogod ar draws cae.
Cafodd hyn ei gofnodi yn Llyfr Cofnod Ysgol Senni yn 1880, pan yr oedd yn "a new thing" yn yr ardal...
Rwy’n mynd o’r fan yma nawr ! Methu diodde y bechgyn
Senni yna.
13 Hydref
1880
School diary entry "Great many of the children were absent today - indeed nearly all the boys were absent - at the "coursing match", which is quite a "new thing" in the neighbourhood".
Yn ardaloedd y Sir, roedd yna ffeiriau da byw yn digwydd yn rheolaidd a digwyddiadau megis gornest aredig ger Ysgol Llanddeti yn 1896...  
12 Chwefror
1896
School diary entry "Owing to a Ploughing Match being held in the neighbourhood only two children came to school this afternoon".
Roedd y rhan fwyaf o blant yn mynd i’r Ffair Fai flynyddol hefyd. Mae hwn o ddyddiadur Ysgol Nantddu yn 1900...  
1 Mai
1900
School diary entry "Owing to Brecon May Fair only four children came to school, consequently the Registers were not marked".
 

Ac nid oedd Ysgol Fabanod Dr Coke yn Aberhonddu yn gallu cystadlu gyda’r syrcas yn dod i’r dref yn Ebrill 1884 -
"Half-holiday Wednesday afternoon. A large circus visited Brecon, there was a grand procession of elephants and camels, and we would have had no scholars. Told the children to notice the elephants, as they had had lessons on them".
Yn ôl pob tebyg, byddai’r plant wedi’i gweld hi’n anodd i beidio â sylwi ar yr eliffantod yng nghanol Aberhonddu !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Aberhonddu
.

.

Elephant drawing