Aberhonddu
a'r cylch
Bywyd ysgol
|
Dod
o hyd i waith yn y Ffair Bentymor |
|
|
Yn ystod
cyfnod Fictoria (ac am nifer o flynyddoedd wedi hyn),
roedd y "Ffair Bentymor" yn ffordd arferol
o ddod o hyd i waith. Byddai’r sawl fyddai’n gadael yr ysgol yn mynd i’r
ffeiriau hyn, a gynhaliwyd ym mis Mai
a Thachwedd yn y mwyafrif o drefi marchnad
i gwrdd â ffermwyr yn chwilio am weithwyr neu dirfeddianwyr cyfoethog yn
edrych am weision. Yn ogystal, roedd adegau pan fyddai pobl mewn gwaith
yn newid eu cyflogwyr yn y gobaith o gael gwell amodau.
Mae’r darn cyntaf o Lyfr Cofnod a welwch chi yma yn dod o Ysgol
Pontfaen yn 1889... |
|
10
Mai
1889
|
|
"Very
low average this week 24.4, owing to the Brecon fair, two scholars left
school for service, Jane Jones and Elizabeth Pritchard - their mistresses
will allow them to come to school on the day of examination". |
|
Byddai’r
ddwy ferch yma wedi eu cyflogi fel gweision domestig
i gynnau tanau, sgrwbio lloriau, golchi dillad a gwneud gwaith annymunol
arall am ychydig iawn o arian. Nid oedd unrhyw
beiriannau i wneud y gwaith
yn haws y dyddiau hynny ac roedd dal disgwyl i’r merched fynd nôl i’r ysgol
i sefyll eu harholiadau.
Mae’r darn a welwch chi nesaf o ddyddiadur Ysgol
Llanfihangel Nant Bran yn
1882, a’r tro yma, y bechgyn oedd yn
cael y gwaith ! |
"Attendance
very poor throughout the week owing to the fairs at Brecon and the
farmers being short of servants".
Ysgol Talachddu
7 Tachwedd, 1889
|
|
19
Mai
1882
|
|
"A
still further decrease in the attendance this week owing, no doubt in some
measure to the influence of the May Fair - one or more boys having been
hired as servants by the farmers". |
|
Mae darn tebyg o
ddyddiadur Ysgol Talachddu o’r 3ydd
Tachwedd 1891 yn darllen - "Brecon
Hiring Fair.
No children came to school, so was obliged
to close for the day".
Roedd y Ffeiriau Pentymor yn aml yn
arwain at blant yn symud i ysgolion eraill
pan fyddai rhieni yn newid eu gwaith ac yn gorfod symud i fyw mewn ardal
arall.
Yn ôl i ddewislen
ysgolion Aberhonddu
.
.
|
|
|
|
|