|
Am flynyddoedd lawer y ffordd arferol
o helpu’r pobl dlotaf yn y gymuned,
gan gynnwys y rheini oedd yn hen iawn neu’n sâl, oedd talu er mwyn iddynt
allu sefyll yn eu cartrefi. Roedd yr arian ar gyfer hyn yn dod o Dreth
y Tlodion, a gasglwyd gan bobl y plwyf, a’r enw a roddwyd ar
y system yma o ofalu am y tlawd oedd 'Cymorth
i’r Tlodion'.
Ond roedd yna lawer o gwynion
oddi wrth blwyfi ynglyn â chost treth y tlodion, ac roedd tirfeddianwyr
cyfoethog ymysg y rheini oedd yn galw am ffordd ratach o ddelio
gyda’r tlawd.
Ateb y llywodraeth oedd Deddf Seneddol newydd yn 1834
a wnaeth orfodi plwyfi i gyfuno gyda’i gilydd yn Undebau ac adeiladu tlotai
mawr ar gyfer yr ardal gyfan. Roedd y rhain yn debyg iawn i
garchardai, gyda waliau llwm, gwelyâu caled, ac ychydig iawn o fwyd. Roedd
teuluoedd yn cael eu rhannu ac yn methu â chyfarfod eto cyhyd â’u bod
yn y tloty. Roedd ofn mawr ar bobl y byddent yn cael eu hanfon i’r tloty
– a phwy fyddai’n eu beio nhw ?
Adeiladwyd un o’r llefydd ofnadwy yma yn 1838
ychydig y tu allan i Lanfyllin, a
gallwch ddysgu mwy amdano o’r tudalennau yma...
|
Mae
mwy am y tlotai ar ein Tudalennau ‘Gofalu
am y Tlawd’
|
|