Llanfyllin Adeiladwyd tloty Llanfyllin yn 1838,
heb fod yn hir wedi cyflwyno’r rheolau llym ar gyfer delio â thlodion
o dan Ddeddf Newydd y Tlodion yn 1834,
deddf oedd yn cael ei chasáu gymaint. Roedd y tlotai newydd wedi eu bwriadu
i edrych fel carchardai, ac roedd llawer ohonynt wedi’u lleoli ar dir
uchel fel rhyw fath o rybudd i’r gymuned.
Dyma lle y byddent yn gorfod mynd efallai oni bai eu bod yn gweithio’n
galed ac yn osgoi drygioni’r ddiod ! Roedd y rhan fwyaf
yn derbyn nad oedd pobl dlotaf y plwyfi lleol yn gallu helpu eu hunain
gan eu bod yn hen, yn
sâl neu wedi’u hanafu mewn damweiniau. Yr enw a roddwyd ar
y rhain oedd y 'deserving poor', ond
roedd pobl eraill oedd yn ddigartref yn cael eu trin yn wael fel 'dihirod
a chardotwyr' neu fel 'cardotwyr diog'.
Roedd y gost o gynnal y tlawd o dan y 'cymorth
i’r tlawd' wedi bod yn cynyddu’n raddol hyd at 1834, ac roedd
plwyfi’n gwrthwynebu i brisiau uchel Trerth y
Tlodion.
Tloty'r Undeb
Gwyliwch
rhag tloty’r Undeb
Roedd y rhan fwyaf o’r rheini oedd yn perthyn i’r dosbarthiadau
oedd yn llywodraethu ar
ddechrau oes Fictoria yn credu bod y tlawd yn ddiog, yn feddwon nad oedd
yn hoffi gwaith ac yn dewis byw oddi ar y plwyf yn hytrach na chynnal
eu teuluoedd.
Llanfyllin
mewn
engrafiad
cynnar
Ateb y llywodraeth oedd i roi’r holl bobl oedd yn cael eu cynnal gan drethdalwyr
mewn adeiladau mawr llwm – a gwario cyn lleied â phosibl arnynt drwy roi
gwaith iddynt ei wneud.
Croeso i dloty oes Fictoria ! Mae
mwy am adeilad y tloty ar y dudalen nesaf...